Mae'n ymweld bod Cymru yn cynhyrchu mwy o CO2 nag unrhyw rhan arall o'r DU. Mae 11 o wledydd yn gynhyrchu mwy o CO2 y pen na Chymru yn y Byd!
Mae'r ddogfen One Wales yn gosod targed o ostwng CO2 o ddeutu 3% o nawr tan 2011. Ond os yw Cymru eisiau cyraedd targedau Prydeinig bydd rhaid iddi gostwng CO2 oddeutu 4% y flwyddyn, heb son am arwain y frwydr yn erbyn newid hinsawdd! Yn sicr mae yn llawer i neud er mwyn trawsnewid ein hagweddau tuag at newid hinsawdd.
Dwi eisoes wedi argyhoeddi bod angen newid sylfaenol yn ein hagwedd tuag at trafnidaeth yng Nghymru, a bod angen gwasanaeth trafnidiaeth cyhoeddus cynhwysfawr i BOB rhan o Gymru gan gynnwys cefn gwlad; pris uchel nawr, ond buddsoddiad holl bwysig ar gyfer ein dyfodol.

digg it
del.icio.us


