Jail Bird dlai hwn fod!
Dyma fideo o aderyn yn dwyn o siop yn yr Alban...
Dyma fideo o aderyn yn dwyn o siop yn yr Alban...
Ar ol son am Michael Foot a agwedd ASau Llafur tuag at y Gymraeg yn y post diwethaf dyma Paul Flynn yn dangos bach osynwyr cyfredin...
It's the defeated anti Red-Green coalition MPs soothing the hurt of their bloody noses by putting the boot into the Welsh Language. A new Welsh Language Act is one of the coalition's aims. Sad really that our two Gwent ex-ministers and papal knights cannot find anything more useful to fill their lives. Cheer up, Don and Paul and return to serious politics'.
Yep dwi wedi cael allwedd i'r fflat erbyn hyn! Felly ymhen pythefnos bydda i yn trigolyn sunny Aberystwyth (neu falle ddim mor heulog dyddiau yma).
Felly ma' 'da fi LOT o waith pacio a symud 'da fi i wneud o hyn tan pryd hynny!
Bydd rhaid i fi sortio mas cysylltiad rhyngrhwyd... felly pwy dylwn i fynd gyda? Tiscali oeddwn i yn meddwl, beth sydd gyda chi a be' yw eich barn chi...
TRAFODWCH!
Wel mae pethau wedi pethi rhwng Rwsia a'r D.U. Mae Rwsia wedi bygwth y byddai pethau difrifol yn digwydd mewn canlyniad i weithredoedd Prydain. Sgwn i beth yw'r pethau "difrifol" hyn?
Sai'n gwybod beth yn union bydd hyn yn golygu, ond am wn i bydd cyflenwad nwy yn rhywbeth i neud ag e?! Dyna'r unig "bargaining chip" sy' gan Rwsia, ac mae nhw yn defnyddio e yn effeithiol iawn!
Wel, ma'r fflat 'da fi a fe caf i symud i Aberystwyth! Felly bydda i yn symud i Aber ymhen mis!
Dwi yn edrych ymlaen i cael symud, lle fy hun! neis iawn!
Sori does gen i ddim lot i son amdano ar hyn o bryd...
...addo bydd mwy cyn bo' hir

Blydi Hel! Mae papur Llundeinig (sai'n siwr os yw hwn'n gaircywyr) y Guardian wedi cymryd sylw owleidyddiaeth Cymru. Sylwch hefyd yr ymateb sydd oddi dan y'r erthygl, typical!
Pan oeddwn i yn y brif ysgol nes i troi lan cwpwl o weithiau nes i troi lan i ddarlith awr yn gynnar, a sawl waith awr yn hwyr. Ac unwaith es i i seminar awr yn hwyr, dim ond i gweld gweddill o fy ngyd myfyrwyr yn gadael a fy nhiwtor yn edrych yn pissed off! Ac do, oeddwn i yn teimlo fel dwat.
Tybed fel oedd y boi YMA yn teimlo fel?!
Do fe deithiodd 4,000 i filltiroedd nol i Gymru o Canada i fynychu priodas ei ffrind ond i ddarganfod ei bod e braidd yn gynnar... 'mond 12 mis yn gynnar!
Gwell i fod yn gynar nac yn hwyr am wn i!
Felly mae'n ymweld fel bod Plaid Cymru mewn Llywodraeth am y tro gyntaf yn ei hanes!
Mwy i ddod...
Mwy: Mae'n ymweld fel bod Plaid wedi pleidlaisio gryf dros y glymblaid, gyda dim ond 18 yn pleidleisio yn erbyn!
Ydych chi'n cofio'r geiriau hyn a dywedwud yn Nhy'r Cyffredin...
"Adam Price: Speaking of unholy alliances, will the Secretary of State clarify his earlier comment, and confirm that he was not ruling out a coalition between his party and mine after the election?
Peter Hain: I am ruling it out. There is no prospect of that at all. It is a matter for Rhodri Morgan and Welsh Labour Assembly Members, but I do not think that Welsh Labour would accept it."
Mae'n ymweld bod Peter Hain ddim ar yr un donfedd a'r Blaid Llafur Cymreig.
Ond fe welais i teitl hyn ar ei wefan " Hain sets out radical Red-Green agenda - 13 Mar 2007"
DIAWL! yn groes i'r dyfyniad uchod, mae Peter Hain wedi bod yn cefnogol o'r clymblaid ers mis Mawrth!? Ond cliciwch ar y linc i cael weld beth mae'n son amdano. Teitl anffodus am ddatganiad wasg.
Dyma beth oedd gan Peter Hain i ddweud ynglyn a'r pleidlais heno...
"This was not a vote for nationalism nor was it a vote for independence: it was a vote to keep Welsh Labour at the heart of government"
Ydyw hi'n hen bryd i Llafur Cymru pellhau eu hun oddi wrth pyrs fel hyn sydd yn Llundain, ac mor gyfarwydd a wleidyddiaeth Cymru ag y mae nhw gyda heolydd gwledig Login (Sir Gaerfyrddin)?
Gyda Mr Hain yn siarad fel hyn, mae'n hawd i berson meddwl mai buddiannau'r blaid (aros ym mhwer), ac nid buddiannau Cymru sydd wrth wraidd gweithredoedd y Blaid Lafur... os bossib!?
Fel pob flogwr, mae'n siwr mae gen i peth sy'n cymryd nifer o bobl sy'n ymweld a'n flog i ac o lew mae nhw wedi dod o (hynny yw sut cyrhaeddant fy mlog). Wel wrth i mi weld niferoedd sy'n ymweld gyda fy mlog iaith saesneg sylwais bod rhai yn dod o dudalen nad oeddwn i wedi clywed amdano o'r blaen. Felly ymwelais a'r safle hon, ac fel mae'n troi allan gwefan sydd yn cefnogol i'r English Democrats. Mae yna rhestr o flogiau "gwleidyddol" Cymraeg ac Albanaidd yna. Sut y ddiawl cawson nhw o hyd i fy mlog i?!
Oh wel.
Yn ol BBC pleidleisiodd 78% o blaid y glymblaid. Mae'n ymweld fel petai Rhodri Morgan wedi cario'r ddadl.
Nawr mae'r pel yng ngwrt Plaid Cymru fel petai... ac o beth dwi wedi clywed oddi wrth y rhai sydd wedi clywed Ieuan Wyn Jones yn siarad Ie byddai hi hefyd.
Y teimlad yw bod aelodaeth Plaid Cymru yn llai eliniaethus tuag at y glymblaid nag aelodaeth Llafur.
Mae'n ymddangos mai'r Undebau oedd y mwyaf cefnogol gyda 95.83% o blaid.
Er y son bod aelodaeth Llafur yn tebygol o fod yn fwy erbyn y ddel llwyddodd 61.02% i pleidleisio dros y glymblaid.
Felly mae'n ymweld fod yna cefnogaeth oddi fewn Llafur at y ddel, yn groes i beth mae lawer o'r Rainbowistas wedi ceisio honni!
Hey hey dwi'n enwog... wel nagw dim rili. Ond mae cyfaill i mi o'r coleg wedi cyhoeddi llyfr yn Tseina. Llyfr sy'n cymharu bywyd myfyrwyr Tseiniaidd a myfyrwyr y DU. Dwi heb cael y pleser o ddarllen y llyfr eto gan nad yw e mas eto, ond mae llun ohonna i a rhai o'm ffrindiau ar blaen y llyfr!!! Gweler y llun ar fy mlog iaith Saesneg fi FAN HYN. Neu cliciwch ar y ddolen "Delweddau" i'r dde ar y tudalen hyn.
Wel dwi erbyn hyn wedi cael y cyfle i darllen y ddogfen One Wales. Mae'r hyn dwi wedi derllen yn apelgar iawn i unrhyw un sy'n cefnogol o Blaid Cymru, am wn i.
Dyma beth sy'n cael ei dweud yn y ddogfen (yn fras)
Pwerau'r Cynulliad
Arian a cyllido
Dydw i ddim yn mynd i diflasu chi yn fan hyn. Gweler y dogfen yn ei gyfanrwydd, cliciwch y linc One Wales Dogfen

Mawr hoffaf mynd i'r ddigwyddiad hyn, ond mae arnai ofn efallai na chaf i fynd i'r 'steddfod.
Cwch mwy o wybodaeth YMA
Gan mae Llafur yn penderfynu yfory ar y glymblaid dwi'n meddwl nai edrych ar y posibiliadau.
- Plaid mewn llywodraeth gyda Llafur.
- Tensiynau rhwng yr unoliaethwyr yn Llafur a cenedlaetholwyr Llafur yn tyfu (efallai).
2. Llafur yn gwrthod y glymblaid
- Llafur mewn llywodrath lleiafrifol.
- Plaid yn wrthblaid
- Enfys (efallai)
- Llafur yn ymddangos fel plaid sydd ddim eisiau fod mewn llywodraeth effeithiol. Llafur yn ymddangos fel plaid sy gwell ganddyn nhw fod ar ben eu hunain na cael beth sydd o fudd i Gymru.
- Lib Dems yn neidio i mewn a cynnig fod mewn clymblaid (er byddai hyn yn glymblaid ansefydlog oherwydd ansicrwydd mewnol y lib dems).


Mae'r Prif Weinidog wedi penderfynnu ei bod e yn mynd i fynd yn groes i ddemocratiaeth ac apwyntio person di etholedig i'r llywodraeth a la arlywydd yr UDA. Gweler y stori YMA.
Oce mae ganddo'r hawl i penodi pwy mae e moyn, mae'n digwydd yn yr UDA dwi'n clywed chi'n dweud. Ond yr hyn sy'n peri gofyd i mi yw pa mor bell gllai hyn mynd? Pwrpas y system americanaidd yw i rhannu pwer. Felly mae'r legislature ar whan i'r executive, h.y nid yw aelodau'r llywodraeth yn aelodau o'r senedd na'r cyngres; felly mae'r ddau yn cadw golwg ar ei gilydd and yn balans i'r llall (a gydar barnwriaeth hefyd fel y trydydd rhan o'r wladwriaeth wrth gwrs).
Ond yn fan hyn mae gennym llywodraeth sy' nawr yn cynnwys ASau a pobl sy heb cael eu ethol. Trwy rhoi arglwyddiaeth i Syr Digby Jones (sydd ddim hyd yn oed yn aelod o'r Blaid Lafur) mae hawl gan Gordon Brown cynnwys e yn y Llywodraeth; mae gobaith i mi eto! Ai hyn yw ateb Gordon Brown i apethi? Ai hwn yw'r "Gwleidyddiaeth cynhwysfawr" newydd sydd i fod?
Wel dwi wrthi yn ceisio ailwampio'r blog. Felly Croeso, dwi wedi symud o FAN HYN i'r tudalen yma. Gobeithio bydd hwn yn gweithio.