Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM

B-login

Bach o bopeth a lot o rethreg

Archif: Awst 2007

Cymru Gwyrdd?

aled 06/08/2007 @ 11:48

Mae'n ymweld bod Cymru yn cynhyrchu mwy o CO2 nag unrhyw rhan arall o'r DU.  Mae 11 o wledydd yn gynhyrchu mwy o CO2 y pen na Chymru yn y Byd!

Mae'r ddogfen One Wales yn gosod targed o ostwng CO2 o ddeutu 3% o nawr tan 2011.  Ond os yw Cymru eisiau cyraedd targedau Prydeinig bydd rhaid iddi gostwng CO2 oddeutu 4% y flwyddyn, heb son am arwain y frwydr yn erbyn newid hinsawdd!   Yn sicr mae yn llawer i neud er mwyn trawsnewid ein hagweddau tuag at newid hinsawdd.

Dwi eisoes wedi argyhoeddi bod angen newid sylfaenol yn ein hagwedd tuag at trafnidaeth yng Nghymru, a bod angen gwasanaeth trafnidiaeth cyhoeddus cynhwysfawr i BOB rhan o Gymru gan gynnwys cefn gwlad; pris uchel nawr, ond buddsoddiad holl bwysig ar gyfer ein dyfodol.