Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM

B-login

Bach o bopeth a lot o rethreg

Categori: Gwleidyddiaeth Cymru

Cymru Gwyrdd?

aled 06/08/2007 @ 11:48

Mae'n ymweld bod Cymru yn cynhyrchu mwy o CO2 nag unrhyw rhan arall o'r DU.  Mae 11 o wledydd yn gynhyrchu mwy o CO2 y pen na Chymru yn y Byd!

Mae'r ddogfen One Wales yn gosod targed o ostwng CO2 o ddeutu 3% o nawr tan 2011.  Ond os yw Cymru eisiau cyraedd targedau Prydeinig bydd rhaid iddi gostwng CO2 oddeutu 4% y flwyddyn, heb son am arwain y frwydr yn erbyn newid hinsawdd!   Yn sicr mae yn llawer i neud er mwyn trawsnewid ein hagweddau tuag at newid hinsawdd.

Dwi eisoes wedi argyhoeddi bod angen newid sylfaenol yn ein hagwedd tuag at trafnidaeth yng Nghymru, a bod angen gwasanaeth trafnidiaeth cyhoeddus cynhwysfawr i BOB rhan o Gymru gan gynnwys cefn gwlad; pris uchel nawr, ond buddsoddiad holl bwysig ar gyfer ein dyfodol. 

Mae'n ddrwg gen i...

aled 24/07/2007 @ 18:01

Ar ol son am Michael Foot a agwedd ASau Llafur tuag at y Gymraeg yn y post diwethaf dyma Paul Flynn yn dangos bach osynwyr cyfredin...

It's the defeated anti Red-Green coalition MPs soothing the hurt of their bloody noses by putting the boot into the Welsh Language. A new Welsh Language Act is one of the coalition's aims. Sad really that our two Gwent ex-ministers and papal knights cannot find anything more useful to fill their lives. Cheer up, Don and Paul and return to serious politics'.

Clywch Clywch.

Diiiiaaaaawwwwl!

aled 11/07/2007 @ 17:59
Guardian

Blydi Hel! Mae papur Llundeinig (sai'n siwr os yw hwn'n gaircywyr) y Guardian wedi cymryd sylw owleidyddiaeth Cymru.  Sylwch hefyd yr ymateb sydd oddi dan y'r erthygl, typical!

Mae Plaid yn dweud IE!

aled 07/07/2007 @ 15:01

Felly mae'n ymweld fel bod Plaid Cymru mewn Llywodraeth am y tro gyntaf yn ei hanes!

Mwy i ddod...

Mwy:  Mae'n ymweld fel bod Plaid wedi pleidlaisio gryf dros y glymblaid, gyda dim ond 18 yn pleidleisio yn erbyn!

Peter Hain

aled 06/07/2007 @ 22:21

Dyma beth oedd gan Peter Hain i ddweud ynglyn a'r pleidlais heno...

"This was not a vote for nationalism nor was it a vote for independence: it was a vote to keep Welsh Labour at the heart of government"

Ydyw hi'n hen bryd i Llafur Cymru pellhau eu hun oddi wrth pyrs fel hyn sydd yn Llundain, ac mor gyfarwydd a wleidyddiaeth Cymru ag y mae nhw gyda heolydd gwledig Login (Sir Gaerfyrddin)?

Gyda Mr Hain yn siarad fel hyn, mae'n hawd i berson meddwl mai buddiannau'r blaid (aros ym mhwer), ac nid buddiannau Cymru sydd wrth wraidd gweithredoedd y Blaid Lafur... os bossib!?

Ie meddai Llafur

aled 06/07/2007 @ 18:48

Yn ol BBC pleidleisiodd 78% o blaid y glymblaid. Mae'n ymweld fel petai Rhodri Morgan wedi cario'r ddadl.

Nawr mae'r pel yng ngwrt Plaid Cymru fel petai... ac o beth dwi wedi clywed oddi wrth y rhai sydd wedi clywed Ieuan Wyn Jones yn siarad Ie byddai hi hefyd.

Y teimlad yw bod aelodaeth Plaid Cymru yn llai eliniaethus tuag at y glymblaid nag aelodaeth Llafur.

 

Mae'n ymddangos mai'r Undebau oedd y mwyaf cefnogol gyda 95.83% o blaid.

Er y son bod aelodaeth Llafur yn tebygol o fod yn fwy erbyn y ddel llwyddodd 61.02% i pleidleisio dros y glymblaid.

Felly mae'n ymweld fod yna cefnogaeth oddi fewn Llafur at y ddel, yn groes i beth mae lawer o'r Rainbowistas wedi ceisio honni!

Dogfen Coch / Gwyrdd

aled 06/07/2007 @ 16:53

Wel dwi erbyn hyn wedi cael y cyfle i darllen y ddogfen One Wales. Mae'r hyn dwi wedi derllen yn apelgar iawn i unrhyw un sy'n cefnogol o Blaid Cymru, am wn i.

Dyma beth sy'n cael ei dweud yn y ddogfen (yn fras)

Pwerau'r Cynulliad

  • Refferendwm ar pwerau deddfu llawn i'r Cynulliad mor gynted a pryd fyddai'n ymarferol erbyn diwedd, neu cyn diwedd y tymor.
  • Creu confensiwn sifil (rhywbeth na ddigwyddodd yn 1979 na 1997 yng Nghymru).

Arian a cyllido

  • Comisiwn i edrych ar Fformiwla Barnett, pwerau newid trethi (tax varying), y posibilrwydd o cynnig ad-daliad ar treth corfforaethol yn ardaloedd convergence fund.

Dydw i ddim yn mynd i diflasu chi yn fan hyn. Gweler y dogfen yn ei gyfanrwydd, cliciwch y linc  One Wales Dogfen

Coch / Gwyrdd

aled 05/07/2007 @ 21:55

Gan mae Llafur yn penderfynu yfory ar y glymblaid dwi'n meddwl nai edrych ar y posibiliadau.

 

1. Llafur yn cytuno ar y ddel coch / gwyrdd.

  • Plaid mewn llywodraeth gyda Llafur.
  • Tensiynau rhwng yr unoliaethwyr yn Llafur a cenedlaetholwyr Llafur yn tyfu (efallai).

2. Llafur yn gwrthod y glymblaid

  • Llafur mewn llywodrath lleiafrifol.
  • Plaid yn wrthblaid
  • Enfys (efallai)
  • Llafur yn ymddangos fel plaid sydd ddim eisiau fod mewn llywodraeth effeithiol. Llafur yn ymddangos fel plaid sy gwell ganddyn nhw fod ar ben eu hunain na cael beth sydd o fudd i Gymru.
  • Lib Dems yn neidio i mewn a cynnig fod mewn clymblaid (er byddai hyn yn glymblaid ansefydlog oherwydd ansicrwydd mewnol y lib dems).