Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM

B-login

Bach o bopeth a lot o rethreg

Categori: Gwleidyddiaeth Prydain

From Rysia widd lyf!

aled 17/07/2007 @ 07:13

Wel mae pethau wedi pethi rhwng Rwsia a'r D.U.  Mae Rwsia wedi bygwth y byddai pethau difrifol yn digwydd mewn canlyniad i weithredoedd Prydain.  Sgwn i beth yw'r pethau "difrifol" hyn?  

 

Sai'n gwybod beth yn union bydd hyn yn golygu, ond am wn i bydd cyflenwad nwy yn rhywbeth i neud ag e?!  Dyna'r unig "bargaining chip" sy' gan Rwsia, ac mae nhw yn defnyddio e yn effeithiol iawn!

 

Peter Hain... eto

aled 07/07/2007 @ 10:37

Ydych chi'n cofio'r geiriau hyn a dywedwud yn Nhy'r Cyffredin...

 

"Adam Price: Speaking of unholy alliances, will the Secretary of State clarify his earlier comment, and confirm that he was not ruling out a coalition between his party and mine after the election?

Peter Hain: I am ruling it out. There is no prospect of that at all. It is a matter for Rhodri Morgan and Welsh Labour Assembly Members, but I do not think that Welsh Labour would accept it."

Mae'n ymweld bod Peter Hain ddim ar yr un donfedd a'r Blaid Llafur Cymreig.

Ond fe welais i teitl hyn ar ei wefan  " Hain sets out radical Red-Green agenda - 13 Mar 2007"

DIAWL! yn groes i'r dyfyniad uchod, mae Peter Hain wedi bod yn cefnogol o'r clymblaid ers mis Mawrth!?  Ond cliciwch ar y linc i cael weld beth mae'n son amdano.  Teitl anffodus am ddatganiad wasg.