Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM

B-login

Bach o bopeth a lot o rethreg

Categori: Stwff

Jail Bird dlai hwn fod!

aled 25/07/2007 @ 16:55

Dyma fideo o aderyn yn dwyn o siop yn yr Alban...

 
 

 

 

Michael Foot

aled 24/07/2007 @ 07:17
Diddorol oedd hi i ddarllen bod Michael Foot wedi datgan ei bod e'n dyfaru nad oedd e wedi dysgu Cymraeg pan oedd e 'n AS dros Glyn Ebwy. Mae'r agwedd hyn yn peth prin ymysg ASau Llafur yng Nghymru heddiw, gyda RHAI yn dangos atgasedd tuag at yr iaith ac yn ei defnyddio fel pel wleidyddol i chwarae y Cymry Cymraeg yn erbyn y Cymru di Gymraeg yn erbyn ei gilydd.

Sunny Aberystwyth

aled 23/07/2007 @ 21:26

Yep dwi wedi cael allwedd i'r fflat erbyn hyn!  Felly ymhen pythefnos bydda i yn trigolyn sunny Aberystwyth (neu falle ddim mor heulog dyddiau yma).

Felly ma' 'da fi LOT o waith pacio a symud 'da fi i wneud o hyn tan pryd hynny!  

Bydd rhaid i fi sortio mas cysylltiad rhyngrhwyd... felly pwy dylwn i fynd gyda?  Tiscali oeddwn i yn meddwl, beth sydd gyda chi a be' yw eich barn chi...

 

TRAFODWCH! 

Aberystwyth

aled 16/07/2007 @ 18:55

Wel, ma'r fflat 'da fi a fe caf i symud i Aberystwyth!  Felly bydda i yn symud i Aber ymhen mis!

 

Dwi yn edrych ymlaen i cael symud, lle fy hun! neis iawn!

 

Sori does gen i ddim lot i son amdano ar hyn o bryd...

...addo bydd mwy cyn bo' hir 

WPS!

aled 10/07/2007 @ 21:10

Pan oeddwn i yn y brif ysgol nes i troi lan cwpwl o weithiau nes i troi lan i ddarlith awr yn gynnar, a sawl waith awr yn hwyr.  Ac unwaith es i i seminar awr yn hwyr, dim ond i gweld gweddill o fy ngyd myfyrwyr yn gadael a fy nhiwtor yn edrych yn pissed off!  Ac do, oeddwn i yn teimlo fel dwat.

Tybed fel oedd y boi YMA yn teimlo fel?!

 

Do fe deithiodd 4,000 i filltiroedd nol i Gymru o Canada i fynychu priodas ei ffrind ond i ddarganfod ei bod e braidd yn gynnar... 'mond 12 mis yn gynnar!

 

Gwell i fod yn gynar nac yn hwyr am wn i!

Caeth i flogio!?

aled 09/07/2007 @ 18:22

71%How Addicted to Blogging Are You?

 

Sut!? Bydd rhaid i mi cloi fy ngluniadur i ffwrdd!!!!

Linciau amheus...

aled 06/07/2007 @ 21:50

Fel pob flogwr, mae'n siwr mae gen i peth sy'n cymryd nifer o bobl sy'n ymweld a'n flog i ac o lew mae nhw wedi dod o (hynny yw sut cyrhaeddant fy mlog).  Wel wrth i mi weld niferoedd sy'n ymweld gyda fy mlog iaith saesneg sylwais bod rhai yn dod o dudalen nad oeddwn i wedi clywed amdano o'r blaen.  Felly ymwelais a'r safle hon, ac fel mae'n troi allan gwefan sydd yn cefnogol i'r English Democrats.  Mae yna rhestr o flogiau "gwleidyddol" Cymraeg ac Albanaidd yna.  Sut y ddiawl cawson nhw o hyd i fy mlog i?!

Oh wel.

Fi ar lyfr yn Tseina!

aled 06/07/2007 @ 18:42

Hey hey dwi'n enwog... wel nagw dim rili. Ond mae cyfaill i mi o'r coleg wedi cyhoeddi llyfr yn Tseina. Llyfr sy'n cymharu bywyd myfyrwyr Tseiniaidd a myfyrwyr y DU. Dwi heb cael y pleser o ddarllen y llyfr eto gan nad yw e mas eto, ond mae llun ohonna i a rhai o'm ffrindiau ar blaen y llyfr!!! Gweler y llun ar fy mlog iaith Saesneg fi FAN HYN. Neu cliciwch ar y ddolen "Delweddau" i'r dde ar y tudalen hyn.

Blog - gwrdd 2007

aled 06/07/2007 @ 16:20

BlogGwrdd 2007, Bar y Maes, Sadwrn 11/8

Mawr hoffaf mynd i'r ddigwyddiad hyn, ond mae arnai ofn efallai na chaf i fynd i'r 'steddfod.

Cwch mwy o wybodaeth YMA

Aberystwyth

aled 05/07/2007 @ 20:13
Fel gwyddoch chi os ych chi'n un o'r diawled diflas sy'n darllen hwn (ha ha sori, dwi ddim yn meddwl e), dwi'n bwriadi symud i lyfli Aberystwyth.  Dwi wedi neud cais am fflat, nawr dwi'n aros i glywed.  Felly cawn weld!
Aber