Felly mae'n ymweld fel bod Plaid Cymru mewn Llywodraeth am y tro gyntaf yn ei hanes!
Mwy i ddod...
Mwy: Mae'n ymweld fel bod Plaid wedi pleidlaisio gryf dros y glymblaid, gyda dim ond 18 yn pleidleisio yn erbyn!
Felly mae'n ymweld fel bod Plaid Cymru mewn Llywodraeth am y tro gyntaf yn ei hanes!
Mwy i ddod...
Mwy: Mae'n ymweld fel bod Plaid wedi pleidlaisio gryf dros y glymblaid, gyda dim ond 18 yn pleidleisio yn erbyn!
Ydych chi'n cofio'r geiriau hyn a dywedwud yn Nhy'r Cyffredin...
"Adam Price: Speaking of unholy alliances, will the Secretary of State clarify his earlier comment, and confirm that he was not ruling out a coalition between his party and mine after the election?
Peter Hain: I am ruling it out. There is no prospect of that at all. It is a matter for Rhodri Morgan and Welsh Labour Assembly Members, but I do not think that Welsh Labour would accept it."
Mae'n ymweld bod Peter Hain ddim ar yr un donfedd a'r Blaid Llafur Cymreig.
Ond fe welais i teitl hyn ar ei wefan " Hain sets out radical Red-Green agenda - 13 Mar 2007"
DIAWL! yn groes i'r dyfyniad uchod, mae Peter Hain wedi bod yn cefnogol o'r clymblaid ers mis Mawrth!? Ond cliciwch ar y linc i cael weld beth mae'n son amdano. Teitl anffodus am ddatganiad wasg.
Dyma beth oedd gan Peter Hain i ddweud ynglyn a'r pleidlais heno...
"This was not a vote for nationalism nor was it a vote for independence: it was a vote to keep Welsh Labour at the heart of government"
Ydyw hi'n hen bryd i Llafur Cymru pellhau eu hun oddi wrth pyrs fel hyn sydd yn Llundain, ac mor gyfarwydd a wleidyddiaeth Cymru ag y mae nhw gyda heolydd gwledig Login (Sir Gaerfyrddin)?
Gyda Mr Hain yn siarad fel hyn, mae'n hawd i berson meddwl mai buddiannau'r blaid (aros ym mhwer), ac nid buddiannau Cymru sydd wrth wraidd gweithredoedd y Blaid Lafur... os bossib!?
Fel pob flogwr, mae'n siwr mae gen i peth sy'n cymryd nifer o bobl sy'n ymweld a'n flog i ac o lew mae nhw wedi dod o (hynny yw sut cyrhaeddant fy mlog). Wel wrth i mi weld niferoedd sy'n ymweld gyda fy mlog iaith saesneg sylwais bod rhai yn dod o dudalen nad oeddwn i wedi clywed amdano o'r blaen. Felly ymwelais a'r safle hon, ac fel mae'n troi allan gwefan sydd yn cefnogol i'r English Democrats. Mae yna rhestr o flogiau "gwleidyddol" Cymraeg ac Albanaidd yna. Sut y ddiawl cawson nhw o hyd i fy mlog i?!
Oh wel.
Yn ol BBC pleidleisiodd 78% o blaid y glymblaid. Mae'n ymweld fel petai Rhodri Morgan wedi cario'r ddadl.
Nawr mae'r pel yng ngwrt Plaid Cymru fel petai... ac o beth dwi wedi clywed oddi wrth y rhai sydd wedi clywed Ieuan Wyn Jones yn siarad Ie byddai hi hefyd.
Y teimlad yw bod aelodaeth Plaid Cymru yn llai eliniaethus tuag at y glymblaid nag aelodaeth Llafur.
Mae'n ymddangos mai'r Undebau oedd y mwyaf cefnogol gyda 95.83% o blaid.
Er y son bod aelodaeth Llafur yn tebygol o fod yn fwy erbyn y ddel llwyddodd 61.02% i pleidleisio dros y glymblaid.
Felly mae'n ymweld fod yna cefnogaeth oddi fewn Llafur at y ddel, yn groes i beth mae lawer o'r Rainbowistas wedi ceisio honni!
Hey hey dwi'n enwog... wel nagw dim rili. Ond mae cyfaill i mi o'r coleg wedi cyhoeddi llyfr yn Tseina. Llyfr sy'n cymharu bywyd myfyrwyr Tseiniaidd a myfyrwyr y DU. Dwi heb cael y pleser o ddarllen y llyfr eto gan nad yw e mas eto, ond mae llun ohonna i a rhai o'm ffrindiau ar blaen y llyfr!!! Gweler y llun ar fy mlog iaith Saesneg fi FAN HYN. Neu cliciwch ar y ddolen "Delweddau" i'r dde ar y tudalen hyn.
Wel dwi erbyn hyn wedi cael y cyfle i darllen y ddogfen One Wales. Mae'r hyn dwi wedi derllen yn apelgar iawn i unrhyw un sy'n cefnogol o Blaid Cymru, am wn i.
Dyma beth sy'n cael ei dweud yn y ddogfen (yn fras)
Pwerau'r Cynulliad
Arian a cyllido
Dydw i ddim yn mynd i diflasu chi yn fan hyn. Gweler y dogfen yn ei gyfanrwydd, cliciwch y linc One Wales Dogfen

Mawr hoffaf mynd i'r ddigwyddiad hyn, ond mae arnai ofn efallai na chaf i fynd i'r 'steddfod.
Cwch mwy o wybodaeth YMA
Gan mae Llafur yn penderfynu yfory ar y glymblaid dwi'n meddwl nai edrych ar y posibiliadau.
- Plaid mewn llywodraeth gyda Llafur.
- Tensiynau rhwng yr unoliaethwyr yn Llafur a cenedlaetholwyr Llafur yn tyfu (efallai).
2. Llafur yn gwrthod y glymblaid
- Llafur mewn llywodrath lleiafrifol.
- Plaid yn wrthblaid
- Enfys (efallai)
- Llafur yn ymddangos fel plaid sydd ddim eisiau fod mewn llywodraeth effeithiol. Llafur yn ymddangos fel plaid sy gwell ganddyn nhw fod ar ben eu hunain na cael beth sydd o fudd i Gymru.
- Lib Dems yn neidio i mewn a cynnig fod mewn clymblaid (er byddai hyn yn glymblaid ansefydlog oherwydd ansicrwydd mewnol y lib dems).

