Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM

B-login

Bach o bopeth a lot o rethreg

Lincs

aled — 2007-07-05 GTM 0 @ 18:55

Dyma rhai dolenni.

Blog Saesneg fi

Maes - e

Bookforum.com

UDA - DU

aled — 2007-07-05 GTM 0 @ 18:11 Tagiau:

Mae'r Prif Weinidog wedi penderfynnu ei bod e yn mynd i fynd yn groes i ddemocratiaeth ac apwyntio person di etholedig i'r llywodraeth a la arlywydd yr UDA. Gweler y stori YMA.

Oce mae ganddo'r hawl i penodi pwy mae e moyn, mae'n digwydd yn yr UDA dwi'n clywed chi'n dweud. Ond yr hyn sy'n peri gofyd i mi yw pa mor bell gllai hyn mynd? Pwrpas y system americanaidd yw i rhannu pwer. Felly mae'r legislature ar whan i'r executive, h.y nid yw aelodau'r llywodraeth yn aelodau o'r senedd na'r cyngres; felly mae'r ddau yn cadw golwg ar ei gilydd and yn balans i'r llall (a gydar barnwriaeth hefyd fel y trydydd rhan o'r wladwriaeth wrth gwrs).

Ond yn fan hyn mae gennym llywodraeth sy' nawr yn cynnwys ASau a pobl sy heb cael eu ethol. Trwy rhoi arglwyddiaeth i Syr Digby Jones (sydd ddim hyd yn oed yn aelod o'r Blaid Lafur) mae hawl gan Gordon Brown cynnwys e yn y Llywodraeth; mae gobaith i mi eto! Ai hyn yw ateb Gordon Brown i apethi? Ai hwn yw'r "Gwleidyddiaeth cynhwysfawr" newydd sydd i fod?

 

Co ni'n mynd...

aled — 2007-07-04 GTM 0 @ 18:24 Tagiau:

Wel dwi wrthi yn ceisio ailwampio'r blog. Felly Croeso, dwi wedi symud o FAN HYN i'r tudalen yma. Gobeithio bydd hwn yn gweithio.